Skip to Main Content Skip to Footer

Publication

AD|ARC yn ennill gwobr am waith traws-bartneriaeth

Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion bod AD|ARC wedi ennill Gwobr Gydnabyddiaeth ADR UK 2024 am Waith Traws-Bartneriaeth.

Cafwyd 40 o enwebiadau o bob rhan o’r bartneriaeth ar gyfer y pum categori yng Ngwobrau Cydnabyddiaeth ADR UK eleni.

Mae’r wobr ar gyfer gwaith traws-bartneriaeth a ddyfarnwyd i AD|ARD yn cydnabod y:
“Gwaith tîm rhagorol gan y tîm amlddisgyblaethol, traws-bartneriaeth hwn sydd wedi defnyddio strategaeth sy’n cydbwyso’r angen am adnodd cyson, ffederal tra’n parchu gwahaniaethau rhanbarthol. Mae tryloywder, ymddiriedaeth a gwneud penderfyniadau cydweithredol wrth wraidd creu setiau data cymaradwy sy’n barod ar gyfer ymchwil.”

Dywedodd Helen Hoult, Ystadegau Ffermio Defra , “Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn wobr haeddiannol. Drwy gydol y prosiect, mae natur gydweithredol yr holl unigolion dan sylw wedi disgleirio, ac mae’r wobr yn cydnabod y buddion y mae’r dull hwn wedi’u cyflawni. Llongyfarchiadau i’r tîm cyfan.”

Dywedodd Laura Madden, Arweinydd Prosiect AD|ARC Llywodraeth Cymru: “Mae hon yn wobr mor wych ac yn amlygu’r gwaith a wnaed gan bawb ar draws partneriaeth y prosiect. Mae’r wobr yn dyst i gefnogaeth a gwaith cymaint o unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r DU. Hoffem ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect.”

 

 

Mwy

Mwy o newyddion