Skip to Main Content Skip to Footer

Publication

Galwad Cymrodoriaeth ar agor – Gwnewch Gais Nawr

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod DG|CYA wedi’i gynnwys fel set ddata flaenllaw ar gyfer galwad cymrodoriaeth yr ymchwil YDG DU sy’n agor heddiw.  

Rydym eisoes wedi trafod ein huchelgais i adeiladu cymuned o ymchwilwyr DG|CYA a dyma’r cyfle cyllido cyntaf a all gynnal yr amcan hwnnw. Os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gymrodoriaeth, byddem yn awyddus iawn i drafod sut y gallem gydweithio i sicrhau’r cyllid gorau a darparu allbynnau defnyddiol.  

Ar gyfer yr alwad hon, dim ond yr data barod i ymchwil DG|CYA Cymru a Lloegr o fewn cwmpas ond gall ceisiadau ddod gan ymchwilwyr cymwys unrhyw le yn y DU.  

Gall ymchwilwyr wneud cais am grant cymrodoriaeth o 18 mis o hyd, hyd at uchafswm o £200,000 y flwyddyn ar gost economaidd lawn 100% y bydd ESRC yn ariannu 80% ohono. Cofrestrwch eich diddordeb mewn gwneud cais am gymrodoriaeth erbyn 4yp ar 28 Mawrth.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan YDG DU: Administrative Data | Agricultural Research Collection – England and Wales – ADR UK 

Mae’r Canllawiau Defnyddwyr a’r metadata ar gyfer setiau data Cymru a Lloegr bellach wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan: Dogfennaeth – AD | ARC – Cymru (adarc.ac.uk) 

Byddwn yn cynnal gweminar am yr setiau data DG|CYA a’r gymrodoriaeth ar 13 Mawrth: ADR UK Research Fellowships: Applicant webinar – AD|ARC Tickets, Wed 13 Mar 2024 at 10:00 | Eventbrite  

 

Mwy

Mwy o newyddion