Skip to Main Content Skip to Footer

Publication

AD| ARC: Deall y bobl sy’n byw ac sy’n gweithio ar ffermydd

Beth ysgogodd AD| ARC, a beth yw’r nod?

Rydym yn gwybod bod newidiadau polisi mawr ar ddod i amaethyddiaeth yn y DU. Mae materion amgylcheddol yn symud i’r canol ac mae polisïau’n prysur ddatblygu i gyflawni amcanion newydd. Mae’n anodd rhagweld effaith polisïau newydd a newidiadau ehangach yn y farchnad a’r amgylchedd ar ffermwyr ac aelwydydd ffermio. Mae llawer o’r data a ddefnyddir i ddatblygu polisi yn ymwneud â gweithgareddau busnes fferm a’r effeithiau mae ffermio’n eu cael ar yr amgylchedd. Mae llai yn hysbys am ffermwyr ac aelwydydd ffermio a phrin y caiff y darlun ei uno rhwng daliadau fferm, busnesau, ffermwyr ac aelwydydd fferm.

Nod y prosiect hwn yw mynd i’r afael â’r bwlch tystiolaeth hwn drwy gysylltu amrywiaeth o setiau data presennol sydd yn y sector cyhoeddus a chynnal ymchwil i’r canlynol:

  • deall yn well pwy sy’n gweithio ym myd ffermio;

  • disgrifio cyfansoddiad a nodweddion aelwydydd ffermio;

  • ymchwilio i iechyd a lles cartrefi fferm a llesiant;

  • archwilio ffactorau sy’n dylanwadu ar ffyniant a gwytnwch busnesau ac aelwydydd fferm;

  • darganfod y ffactorau sy’n effeithio ar ymgysylltiad ffermwyr â chynlluniau rheoli amaeth-amgylchedd

Pwy sy’n cymryd rhan?

Arweinir y prosiect gan YDG Cymru, ond mae’n brosiect i’r DU gyfan o ran ei gwmpas a’i aelodaeth. Yr uchelgais yw sefydlu casgliadau data cyflenwol ym mhob un o bedair gweinyddiaeth y DU, fel y gellir gwneud ymchwil o ddiddordeb i lunwyr polisïau a rhanddeiliaid eraill ar lefel ddatganoledig ac un y DU.

Fel yn achos pob ymchwil data gweinyddol, gwarantir anhysbysrwydd unigol ac mae pob gweithgaredd ymchwil o dan oruchwyliaeth foesegol. Yn ogystal, mae’r prosiect yn ymgysylltu â chynrychiolwyr cymunedau ffermio o amgylch y DU drwy Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid i sicrhau deialog a mewnbwn uniongyrchol ar faterion sydd o ddiddordeb iddynt.

Sut mae’n mynd?

Hwn yw’r prosiect data gweinyddol cyntaf sydd â thema amaethyddol, ac sy’n gweithredu ar raddfa’r DU, felly mae llawer o waith trefnu i’w wneud. Mae hyn yn cynnwys cyrchu setiau data unigol, dod â nhw i fannau ymchwil diogel dynodedig ym mhob un o wledydd y DU, a chysylltu popeth â’i gilydd. Mae’r agwedd hon ar y prosiect yn symud ymlaen ar wahanol gyflymderau o amgylch y DU, ond rydym yn gobeithio bod yn ddigon datblygedig i ddechrau gweithgareddau ymchwil yn ail hanner y flwyddyn hon (2021).

Erbyn diwedd y prosiect rydym yn gobeithio y byddwn wedi rhoi gwybod am ganfyddiadau newydd, perthnasol i bolisïau ar lefel y DU a’r rhai datganoledig, gan arddangos gwerth llwyfan data cysylltiedig ar gyfer amaethyddiaeth yn y DU. Gellir manteisio ar hwn ar sail o dan reolaeth, gan ddarparu adnodd amhrisiadwy ar gyfer ymchwil barhaus. Rydym eisoes yn gweld cyfleoedd i ehangu a datblygu AD|ARC ymhellach y tu hwnt i amserlen y prosiect hwn.

Beth nesaf?

Rydym am gyrraedd a hysbysu unrhyw un a phawb sydd â diddordeb yn yr hyn rydym yn ei wneud. Os ydych yn gweithio ym myd ffermio, yn cynrychioli neu’n cefnogi ffermwyr neu aelwydydd ffermio, neu’n cynnal ymchwil yn y maes hwn, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Rhowch wybod am y prosiect hefyd i gydweithwyr a ffrindiau yn y DU a thu hwnt.

Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn cyhoeddi rhagor o flogiau gan wahanol aelodau’r tîm a phartneriaid prosiect, gan ddechrau gydag Alisha Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gobeithio y bydd o ddiddordeb i chi. Cymerwch ran.

Paul Caskie, Prif Ymchwilydd, AD| ARC

Gallwch gysylltu â thîm AD|ARC yn adarc@adruk.org.

Mwy

Mewnwelediad pellach