Skip to Main Content Skip to Footer

Publication

Sut gall cysylltu data helpu i gryfhau ffermwyr ar draws y DU? Persbectif iechyd cyhoeddus

Mae amaethyddiaeth yn llunio ein hamgylchedd naturiol ac yn cyfrannu at yr economi leol a chenedlaethol, diogelwch bwyd ac iechyd. Wrth i ni edrych ar heriau presennol, megis Covid-19, Brexit a’r newid yn yr hinsawdd, mae angen sicrhau  bod sector ffermio cynaliadwy ar flaen y gad o ran polisi amaethyddol ar draws y DU (Lloegryr AlbanCymru a Gogledd Iwerddon).

Yn yr adroddiad Cefnogi cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau o ansicrwydd, menter ymchwil a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) llynedd, clywsom gan ffermwyr a’r rhai sy’n eu cefnogi ynghylch sut y mae teuluoedd ffermio a chymunedau gwledig, ers cenedlaethau, wedi ymateb i heriau a chaledi drwy dynnu ar eu cryfderau sylweddol eu hunain. Fodd bynnag, yn aml nid yw’r cysylltiadau rhwng iechyd a gwaith/cyflogaeth yn cael eu cydnabod na’u blaenoriaethu, er eu bod yn mynd law yn llaw. Rydym yn gwybod yr effeithir ar iechyd gan benderfynyddion cymdeithasol gwaelodol, gan gynnwys diogelwch cyflogaeth, tai ac incwm, ac i’r gwrthwyneb.

Mae cryfhau ein dealltwriaeth o effaith yr heriau hyn ar fywoliaeth, iechyd a lles ffermwr, a’u teuluoedd, yn hanfodol er mwyn nodi’r anghenion a datblygu a thargedu cymorth effeithiol yn well. Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru mae angen i ni allu deall effaith gweithredoedd ar ganlyniadau iechyd, ac a oes gwahaniaethau o ran effaith rhwng gwahanol fathau o aelwydydd ffermio.

Pam mae cyswllt data o gymorth?

Yn aml, mae’r data sydd eu hangen i ateb y cwestiynau hyn eisoes wedi eu casglu drwy arolygon gwahanol, gan gynnwys:

Ond un rhan yn unig o’r darlun cyffredinol sydd ei angen i lywio polisïau effeithiol a ddarperir gan bob ffynhonnell ddata, ac felly mae angen dod â’r setiau data gwahanol hyn at ei gilydd i feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr, heb beryglu preifatrwydd data. Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr hyn sydd o ddiddordeb i ni yw cysylltu data ar iechyd a lles ffermwyr, aelwydydd ffermio a chymunedau gwledig â data ar fusnesau ffermio.

Mae rôl flaenllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth sefydlu rhaglen AD|ARC (Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol) a ariennir gan ADR UK – cydweithrediad rhwng academyddion y DU ac ymchwilwyr y Llywodraeth i sefydlu casgliad ymchwil data cysylltiedig – yn ceisio gwneud yr union beth hynny. Bydd yn ein galluogi i sefydlu rhaglen ymchwil a monitro i archwilio effaith newidiadau polisi penodol ar ganlyniadau iechyd a busnesau fferm. Bydd hyn yn mynd i’r afael â chwestiynau megis:

  • Beth yw’r berthynas rhwng incwm aelwydydd ffermio ac iechyd a lles meddwl ffermwyr, teuluoedd a chymunedau gwledig?

  • A gaiff polisïau ffermio newydd effaith anghymesur ar ganlyniadau iechyd adrannau penodol o’r gymuned ffermio?

Oes gan ffermwyr lais?

Mae barn ffermwyr a’r rhai sy’n gweithio ac sy’n cefnogi’r sector ffermio eisoes wedi helpu i lunio rhaglen AD|ARC drwy adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cefnogi cymunedau ffermio yn ystod cyfnodau o ansicrwydd, a gyfrannodd at ddatblygu’r rhaglen.

Bydd ffermwyr a sefydliadau ffermio o bob cwr o bedair gwlad y DU yn cyfrannu at y prosiect drwy grwpiau cyfeirio rhanddeiliaid. A minnau’n ferch fferm o Ogledd Iwerddon, byddaf i, ynghyd â’n cydweithwyr ffermio, yn dal y rhaglen yn atebol er mwyn sicrhau bod y casgliad ymchwil hwn yn arwain at fanteision i gymuned ffermio’r DU.

Beth nesaf?

Bydd y prosiect arloesol hwn (a ariennir hyd at fis Mawrth 2022) yn cyflwyno’r llwyfan data dienw cyntaf ledled y DU sy’n canolbwyntio ar amaethyddiaeth, gan greu tystiolaeth newydd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau. Gan ddefnyddio’r data dienw a gynhyrchir gan y ffermwyr hwythau, bydd y casgliad yn cryfhau iechyd, gwytnwch a ffyniant cymunedau ffermio am genedlaethau i ddod.

Mwy

Mewnwelediad pellach