Skip to Main Content Skip to Footer

Publication

Ffermio a ffermwyr yng Ngogledd Iwerddon: Gweithio mewn partneriaeth i greu prosiect cysylltu data

Yn y rhifyn diweddaraf hwn o gyfres blogiau’r prosiect Data Gweinyddol|Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC), mae Orla Bateson o Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) yn trafod datblygiad Astudiaeth Ymchwil Amaethyddol y Cyfrifiad (CARS) a’r camau nesaf yng Ngogledd Iwerddon.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae NISRA wedi dechrau creu cyfres o setiau data â themâu gyda’n partneriaid academaidd ym Mhrifysgol Queen’s Belfast a Phrifysgol Ulster fel rhan o Ymchwil Data Gweinyddol Gogledd Iwerddon (YDG GI). Mae hwn wedi bod yn ddatblygiad cyffrous, a gan weithio’n agos ag adrannau llywodraeth Gogledd Iwerddon, mae YDG GI yn creu setiau data â themâu gan gynnwys data addysg, incwm a chyflogaeth.

Mae’r sector ffermio yn bwysig dros ben i economi Gogledd Iwerddon, ond mae’n wynebu nifer o heriau ar hyn o bryd, gan gynnwys Brexit a Covid-19. Felly, roedd yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yn awyddus i gydweithio ag YDG GI i greu set ddata â themâu a all roi gwybodaeth fanylach a dealltwriaeth am ffermwyr ac aelwydydd fferm yng Ngogledd Iwerddon.

Beth yw Astudiaeth Ymchwil Amaethyddol y Cyfrifiad?

Prosiect Astudiaeth Ymchwil Amaethyddol y Cyfrifiad (CARS) yw llinyn Gogledd Iwerddon o’r prosiect Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC) sy’n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig (DU). Nod yr adnodd data hwn ar draws y pedair gwlad yw creu setiau data ar ffermwyr ac aelwydydd fferm sy’n barod ar gyfer ymchwil.

Mae cam cyntaf llinyn Gogledd Iwerddon y prosiect wedi cysylltu dwy brif set ddata – sef Cyfrifiad 2011 a Chronfa Ddata Ffermydd DAERA – i sefydlu dichonoldeb cysylltu’r setiau data yng Ngogledd Iwerddon. Mae cronfa ddata ffermydd DAERA yn cynnwys data o Gyfrifiad Ffermydd 2010, o Arolwg o Strwythurau Fferm yr UE, ac o daliadau fferm DAERA. Mae’r rhain wedi’u cysylltu â Chyfrifiad 2011, gan ddarparu gwybodaeth am nodweddion ffermydd, ffermwyr ac aelwydydd fferm.

Ffigur 1: Diagram cysylltiadau arfaethedig ar gyfer Astudiaeth Ymchwil Amaethyddol y Cyfrifiad (CARS) 2011

Wrth gysylltu Cyfrifiad 2011 a chronfa ddata ffermydd DAERA, mae CARS yn darparu set ddata newydd yng Ngogledd Iwerddon sy’n darparu gwybodaeth allweddol ar gyfer themâu ymchwil AD|ARC, sef: Demograffeg Gymdeithasol, Gwydnwch, yr Amgylchedd a Lle. Mae’r cam cysylltu cyntaf hwn hefyd yn rhoi llinell sylfaen ar gyfer ffermio yng Ngogledd Iwerddon cyn y daw Cyfrifiad 2021 ar gael.

 

Cynnydd hyd yn hyn

Hyd yma, rydym wedi cynnal cam cyntaf y prosiect ac wedi cwblhau astudiaeth ddichonoldeb ar gysylltiadau rhwng y ddwy set ddata. Mae’r tîm Trydydd Parti Dibynadwy sydd wedi’i leoli yn Swyddfa’r Cyfrifiad yn NISRA wedi cynnal asesiad manwl o’r cysylltiadau.

Yn gyffredinol, gyda 92.2% o ffermydd wedi’u paru ag aelwyd yn y Cyfrifiad (cyn priodoli rhoddwyr), barnwyd bod Cam 1 y paru (sef dod o hyd i aelwyd a pherchennog ar yr un pryd) yn llwyddiannus. Felly, bydd NISRA yn symud ymlaen at ddatblygu CARS.

 

Beth nesaf?

Byddwn nawr yn gweithio â’r darparwyr data, ymchwilwyr Ymchwil Data Gweinyddol Gogledd Iwerddon, a chydweithwyr ym mhartneriaeth ehangach AD|ARC i ddiffinio’r newidynnau a chyflawni’r adeiladwaith terfynol ar gyfer CARS.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â thîm y prosiect yn rsu@nisra.gov.uk.

Mwy

Mewnwelediad pellach