Skip to Main Content Skip to Footer

Ynghylch

Ein Stori

image header farming
Ffermwr yn sefyll mewn cae o wenith

Datblygiad Graddol

Fe wnaeth Cam 1 AD|ARC redeg rhwng Mehefin 2020 a Mawrth 2023, wedi’i ariannu gan Administrative Data Research UK ac UKRI. Yng Ngham 1 fe wnaeth y prosiect, â chymorth y bartneriaeth ehangach greu cronfeydd data cenedlaethol AD|ARC yn seiliedig ar Gyfrifiad Poblogaeth 2011 ledled y DU, gan gychwyn rhaglen ymchwil strategol a fframwaith llywodraethu.

Fe wnaeth Cam 2 AD|ARC lansio ym mis Mawrth 2023, mae’n rhedeg tan 2025 ac mae’n cael cyllid craidd gan Administrative Data Research UK. Bydd y cyllid hwn yn rhoi diweddariad o gronfeydd data cenedlaethol AD|ARC yn seiliedig ar Gyfrifiad Poblogaeth 2021 a datblygu rhaglen ymchwil strategol ymhellach o fewn y fframwaith llywodraethu presennol.

Yn y fideo hwn o gynhadledd YDG DU Tachwedd 2023, mae Paul Caskie (Prif Ymchwilydd) a Laura Madden (Arweinydd Prosiect Llywodraeth Cymru), yn myfyrio ar y lywodraethu, data a heriau DG|CYA, ac yn gwahodd cydweithio â’r prosiect:

Ynghylch AD|ARC

Moeseg a Chyfrifoldebau

Sut mae'r gronfa ddata AD|ARC yn cael ei chadw'n ddiogel?

Sut mae’r gronfa ddata AD|ARC yn cael ei chadw’n ddiogel?

Ein prif flaenoriaeth yw cadw’r data dad-adnabyddedig a ddefnyddiwn ar gyfer ymchwil yn ddiogel. Yn allweddol i hyn mae’r rhwydwaith o amgylcheddau ymchwil dibynadwy sy’n storio data AD|ARC. Mae’r rhain yn gweithredu yn seiliedig ar fframwaith Pum Peth Diogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Yr amgylcheddau ymchwil dibynadwy sy’n storio AD|ARC ym Mhrydain Fawr yw:

  • Lloegr –Gwasanaeth Ymchwil Diogel y SYG
    • Cymru – y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL).
    • Yr Alban- yr Hafanau Diogel Cenedlaethol

Yng Ngogledd Iwerddon mae chwaer adnodd, CARS (Astudiaeth Ymchwil Amaethyddol y Cyfrifiad), yn cael ei storio yng:

  • Ngogledd Iwerddon– amgylchedd ymchwil diogel NISRA

Mae amgylcheddau ymchwil dibynadwy’r DU yn systemau diogel nad ydynt yn caniatáu i ymchwilwyr gopïo neu dynnu data o’r lleoliad diogel neu gysylltiad diogel. Mae hyn yn golygu nad oes gan ymchwilwyr unrhyw ddata ar eu cyfrifiaduron eu hunain. Mae’r holl ganlyniadau ymchwil o AD|ARC (fel tablau neu graffiau) hefyd yn cael eu storio yn yr amgylchedd ymchwil dibynadwy. Cyn y gall ymchwilwyr rannu unrhyw ganlyniadau (er enghraifft, mewn adroddiad), cânt eu gwirio gan dîm annibynnol yn SYG i’w diogelu rhag unrhyw ailadnabod posibl.

Mae pob ymchwilydd sy’n gallu cael mynediad at AD|ARC wedi cael eu hachredu a’u hyfforddi ar sut i drin data yn ddiogel ac yn foesegol. Mae’n rhaid i ymchwilwyr sy’n dymuno dadansoddi’r data AD|ARC brofi i banel llywodraethu bod gan eu hymchwil y potensial i fod o fudd i’r cyhoedd.

A all ymchwilwyr ddod o hyd i fy nghofnodion i, neu aelod o'r aelwyd, o fewn y gronfa ddata AD|ARC?

Na – Mae cronfa ddata’r AD|ARC wedi’i “dad-adnabod” sy’n golygu nad yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n dynodi unigolyn. Er enghraifft, nid yw’n cynnwys enwau, cyfeiriadau, dyddiadau geni na rhifau GIG.

Beth os nad wyf am i'm data (neu ddata aelod o'r cartref) gael eu cynnwys yn AD|ARC?

Mae tîm yr AD|ARC yn credu’n gryf ym manteision ymchwil sy’n defnyddio data dad-adnabyddedig, ac mae ganddynt bolisïau cadarn a diogelwch ar waith i atal camddefnydd o ddata dad-adnabyddedig unigolion. Serch hynny, rydym yn deall efallai na fydd rhai unigolion am i wybodaeth amdanynt gael ei defnyddio ar gyfer ymchwil. Os yw rhywun yn pryderu am gynnwys eu cofnodion dad-adnabyddedig yn AD|ARC, mae croeso iddynt gysylltu â ni am unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnynt. Gweler yr adran- ‘Sut mae cysylltu â’r tîm AD|ARC?’

Gan fod y setiau data AD|ARC a gedwir yn yr amgylcheddau ymchwil dibynadwy ond yn cynnwys data sydd wedi’u dadanabod, nid yw’r tîm AD|ARC yn gallu eich adnabod yn uniongyrchol felly ni allant dynnu eich cofnodion o’r casgliad. Fodd bynnag, os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y defnydd eilaidd o ddata sydd wedi’u dadadnabod a pholisïau amgylcheddau ymchwil dibynadwy y DU lle mae AD|ARC yn cael ei storio, sy’n cynnwys gwybodaeth am a allwch chi a sut allwch chi optio allan o ddata dad-adnabyddedig sy’n ymwneud â chi’n cael eu defnyddio at ddibenion eilaidd, gweler yr adrannau isod ar gyfer pob gweinyddiaeth yn y DU.

Mae data a rennir ar gyfer cronfa ddata’r AD|ARC yn cael ei wneud trwy amrywiaeth o byrth cyfreithiol sy’n galluogi ymchwilwyr achrededig i gael mynediad at ddata at ddibenion ymchwil ac ystadegol. Un o’r pyrth cyfreithiol a ddefnyddir amlaf yw Deddf yr Economi Ddigidol 2017, Adran 64 – ‘Datgelu gwybodaeth at ddibenion ymchwil’. Mae’n nodi y gall data dad-adnabyddedig a gedwir gan awdurdod cyhoeddus mewn cysylltiad â swyddogaethau’r awdurdod gael eu datgelu i unigolyn arall at ddibenion ymchwil. Mae hyn, fodd bynnag, yn amodol ar fodloni meini prawf penodol, gan gynnwys y sicrwydd nad yw hunaniaeth unigolyn wedi’i nodi mewn unrhyw wybodaeth a ddatgelir ar gyfer ymchwil.

Mae data
AD|ARC yng Nghymru yn cael eu storio ym Manc Data SAIL. Gellir dod o hyd i wybodaeth am SAIL a gwybodaeth gyswllt trwy ddilyn y dolenni isod.
Banc Data SAIL – Y Banc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Diogel
Banc Data SAIL – Cwestiynau Cyffredin

Lloegr
Mae data AD|ARC yn Lloegr yn cael eu storio yng Ngwasanaeth Ymchwil Diogel SYG. Gellir dod o hyd i wybodaeth am Wasanaeth Ymchwil Diogel SYG a gwybodaeth gyswllt trwy ddilyn y dolenni isod.
Y Gwasanaeth Ymchwil Diogel – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Polisi Preifatrwydd -Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae gennych yr hawl i ddweud wrth NHS Digital os nad ydych am i’r wybodaeth a roddwch i’r GIG gael ei defnyddio y tu hwnt i ddiben darparu gofal iechyd.
Gelwir hyn yn ‘wrthwynebiad claf.’ Ewch i wefan NHS Digital am ragor o fanylion.
Ni fydd eich dewis yn effeithio ar y gofal iechyd a gewch.

Yr Alban
Mae data AD|ARC yn yr Alban yn cael eu storio yn y National Safe Havens. Gellir dod o hyd i wybodaeth am y National Safe Havens a gwybodaeth gyswllt trwy ddilyn y dolenni isod.
Hafanau Diogel | Ymchwil GIG yr Alban | Ymchwil GIG yr Alban
Rhwydwaith Ffederal o Hafanau Diogel -Siarter ar gyfer Hafanau Diogel yn yr Alban: Trin Data Heb Gydsyniad o Gofnodion Cleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i Gefnogi Ymchwil ac Ystadegau.

Gogledd Iwerddon
Mae data CARS yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu storio yn y National Safe Havens. Gellir dod o hyd i wybodaeth am amgylchedd ymchwil diogel NISRA a gwybodaeth gyswllt trwy ddilyn y dolenni isod.
Amgylchedd ymchwil diogel NISRA

Sut ydw i'n cysylltu â'r tîm AD|ARC?

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon am AD|ARC, cysylltwch â thîm y prosiect:

AD|ARC Tîm y Prosiect
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF103NQ

E-bost: AD|ARC@gov.wales

Beth os oes gennyf gŵyn?

Os oes gennych gŵyn am y defnydd o ddata dad-adnabyddedig gan AD|ARC mae gennych hawl i gwyno’n uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yr awdurdod rheoleiddio annibynnol a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth.