Publication
Sioe Deithiol Amaethyddol yr Haf AD|ARC
Mae rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd AD|ARC mewn sioeau amaethyddol dros haf 2024 ar y gweill. Hyd yn hyn rydym wedi bod i’r Balmoral Show yng Ngogledd Iwerddon, y Three Counties Show yn Lloegr, a’r Highland Show yn yr Alban. Nesaf, byddwn yn cymryd rhan yn y Great Yorkshire Show, y Sioe Frenhinol, Sioe Môn a Sioe Sir Benfro. Gadewch inni wybod os ydych yn mynd i unrhyw un o’r rhain ac eisiau sgwrs!
Rydym yn ymweld â sioeau amaethyddol i siarad â ffermwyr a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn uniongyrchol. Y bwriad yw gwrando ar flaenoriaethau pobl, clywed am y materion sy’n effeithio arnyn nhw a rhannu’r Prosiect AD|ARC gyda’r bobl a allai gael eu cynnwys yn y setiau data.
Mae’r sioeau hyn hefyd yn gyfle i gael trafodaethau wyneb yn wyneb â sefydliadau partner, gan gynnwys y rhai sy’n rhan o Grwpiau cyfeirio rhanddeiliaid AD|ARC. Roedd yn wych cwrdd â’n partneriaid o Iechyd Cyhoeddus yr Alban, Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, RSABI (Sefydliad Amaethyddol Brenhinol yr Alban), Cymdeithas Ffermwyr Tenantiaid yr Alban, Ffederasiwn Tyddynnod yr Alban ac eraill.
Mae’r tair sioe gyntaf eleni wedi mynd yn dda iawn, gyda mynychwyr y sioe yn awyddus i rannu eu safbwyntiau gyda chynrychiolwyr AD|ARC. Rhannodd ffermwyr eu pryderon am gostau cynyddol sy’n effeithio ar fusnesau, yr anawsterau wrth reoli a chynnal busnesau fferm, a allai, yn ôl rhai, ei gwneud yn yrfa llai deniadol i bobl ifanc. Fodd bynnag, mae eu hangerdd a’u hymrwymiad i ffermio ac i barhau gyda ffermydd teuluol yn dal yn amlwg iawn. Bu inni gyfarfod â phobl ifanc a oedd yn awyddus i gael gyrfa ym myd ffermio, ac a oedd hefyd yn pwysleisio nad swydd yn unig ydyw, ond yn ffordd o fyw ac ymrwymiad llawn amser.
Fe wnaethon ni fwynhau clywed gan ffermwyr a rhanddeiliaid eraill yn fawr iawn a chwrdd â’u hanifeiliaid hefyd!
Rhowch wybod inni os byddwch yn y sioeau hyn neu sioeau eraill y byddwn yn ymweld â hwy yn ddiweddarach yn yr haf: The Great Yorkshire Show, y Sioe Frenhinol, Sioe Môn a Sioe Sir Benfro – Byddem wrth ein boddau yn eich gweld yno!