Skip to Main Content Skip to Footer

Publication

AD|ARC: ADR yr Alban yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiect cysylltu data ledled y DU

Mae Dave Grzybowski, Arweinydd Tîm, Tîm Caffael Data Llywodraeth yr Alban yn ADR Scotland, yn trafod sut mae cydweithwyr yn yr Alban yn cefnogi’r prosiect Data Gweinyddol|Casgliad Ymchwil Amaethyddol (AD|ARC), ei effaith ac adeiladu ar y gwersi sy’n cael eu dysgu.

 

Ychydig o wybodaeth am ADR yr Alban

Yn ADR yr Alban, rydym pedair blynedd ar hyd ein taith i ddatblygu a diweddaru sut mae ymchwil cysylltu data yn cael ei gyflawni yn yr Alban. Mae partneriaid ADR yr Alban, Llywodraeth yr Alban a Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol yr Alban (SCADR), yn gweithio ar y cyd i gyflwyno rhaglen uchelgeisiol o ymchwil perthnasol i bolisi. Mae hyn yn cael ei alluogi gan ddylunio dull newydd o gysylltu data a seilwaith cysylltu data wedi’i uwchraddio yn y National Safe Haven yn yr Alban, sef ein hamgylchedd ymchwil cenedlaethol dibynadwy.

Am y tro cyntaf, bydd y National Safe Haven yn cynnal llyfrgell o setiau data sy’n barod ar gyfer ymchwil. Bydd y setiau data hyn yn cynnwys data o addysg, cyfiawnder, yr amgylchedd naturiol a chymunedau lleol. Bydd y setiau data curadurol hyn yn caniatáu mynediad cyflymach at ddata, gan alluogi prosiectau cysylltu newydd ac arloesol. Wrth gwrs, mae’r newid hwn i’r seilwaith hefyd yn ei gwneud hi’n bosibl cynnal setiau data cysylltiedig. Felly pan gysylltodd ADR Cymru â ni ynghylch y posibilrwydd o gynnal y prosiect (AD|ARC) yn yr Alban (menter wedi’i harwain gan ADR Cymru), gydag ychydig o gyffro, penderfynais gymryd rhan yn y gwaith o gefnogi fy nghydweithwyr amaethyddol yn Llywodraeth yr Alban!

Prosiect AD|ARC

Nod y prosiect AD|ARC yw deall yn well nodweddion demograffig, iechyd, addysg ac economaidd aelwydydd fferm sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau a meintiau o fusnesau fferm. Bydd hyn yn rhoi’r mewnwelediad sydd ei hangen ar y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau i wella polisïau yn y dyfodol a gwella lles ffermwyr a’u teuluoedd.

Bu nifer o rwystrau a throeon trwstan ar ein taith hyd yn hyn. Mae cyflawni gofynion Llywodraethu Gwybodaeth Diogelu Data, dylunio methodoleg cysylltu newydd a thrafod mynediad at setiau data wedi cyflwyno heriau sylweddol, wedi’u dwysáu gan Covid-19. Fodd bynnag, drwy weithio gyda phartneriaid ledled yr Alban rydym wedi datblygu amgylchedd ymchwil saff a diogel y gall perchnogion data ymddiried ynddo i gynnal AD|ARC.

Cysylltu data yn yr Alban a ledled y DU

Yn sgil dyfodiad achosion o Covid-19 ym mis Mawrth 2020, rhoddodd arbenigwyr o bob rhan o bartneriaeth ADR yr Alban gefnogaeth i ymatebion Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU. Mae ADR yr Alban wedi dylunio, adeiladu a phoblogi Daliad Data Covid-19, gan alluogi ein hymchwilwyr i ddarparu tystiolaeth i gefnogi’r ymdrechion ymateb ac adfer.

Roedd y profiadau hyn a’r cysylltiadau newydd yn ddefnyddiol pan gysylltodd ADR Cymru â ni gyda chynnig yr AD|ARC, gan sôn eu bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn is-adran Gwyddorau Gwledig ac Amgylcheddol a Gwasanaethau Dadansoddi (RESAS) Llywodraeth yr Alban. Ar ôl cynnal trafodaethau gyda chydweithwyr, roedd yn amlwg y gallwn ddarparu cymorth gyda chyngor ar ddiogelu data a helpu arwain tîm y prosiect drwy’r model cysylltu newydd. Mae wedi bod yn brofiad gwych gweithio gyda thîm RESAS a thîm prosiect ehangach ADR Cymru.

Wrth symud ymlaen, bydd ffocws mawr ar greu setiau data cysylltiedig yn rhaglen fuddsoddi nesaf ADR y DU yn yr Alban. Bydd y prosiect AD|ARC yn creu set ddata ymchwil hirdymor i ymchwilwyr ei defnyddio. Bydd y gwaith y byddwn yn ei wneud dros y misoedd nesaf yn fy helpu i ddeall sut y gall ADR yr Alban ddal y math hwn o set ddata yn ddiogel i’w ailddefnyddio. Bydd hyn yn cefnogi datblygiad y rhwydwaith ymchwil AD|ARC ymhellach.

Beth nesaf ar gyfer AD|ARC yn ADR yr Alban?

Dros yr haf, bo modd i mi gymryd rhan yn Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid AD|ARC yr Alban. Daeth y grŵp hwn â sefydliadau o bob rhan o’r Alban sy’n gweithio gyda ffermwyr a chymunedau gwledig at ei gilydd. Roedd yn wych gweld y brwdfrydedd dros greu’r set ddata a chlywed awgrymiadau ar sut y gellid ei defnyddio. Agorodd y sgwrs i ymchwilwyr siarad am sut y gallent ddefnyddio’r gronfa ddata yn eu hymchwil eu hunain. Efallai mai’r potensial i gysylltu newidynnau ychwanegol â’r gronfa ddata yw’r canlyniad mwyaf diddorol a chyffrous y bydd y prosiect yn ei gefnogi. Rwyf eisoes yn meddwl am sut y gallem ddefnyddio data busnes drwy ychwanegu data geo-ofodol i gefnogi ymchwil yn y dyfodol.

Mae angen inni weithio’n gyflym i gyflawni ymchwil a fydd yn caniatáu i weinyddiaethau ledled y DU ddeall yr effeithiau y bydd newid yn yr hinsawdd a newidiadau i bolisi amaethyddol yn eu cael ar ein cymunedau ffermio a gwledig. Amlygwyd hyn gan fy nghydweithiwr Alastair McAlpine yn ei flog diweddar. Gyda hyn mewn golwg, rwyf wedi bod yn gyffrous i gefnogi’r gwaith y mae cydweithwyr ar draws Llywodraeth yr Alban wedi bod yn ei wneud i adeiladu cronfa ddata AD|ARC. Mae potensial enfawr i ddefnyddio’r gronfa ddata mewn prosiectau ymchwil diddorol a gwerthfawr. Edrychaf ymlaen at fod yn rhan o dîm ADR yr Alban sy’n helpu gwneud i hyn ddigwydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â thîm y prosiect ar AD-ARC@gov.wales.

Mwy

Mewnwelediad pellach