Publication
Data synthetig bellach ar gael ar wefan AD|ARC
Mae tîm AD|ARC yn falch iawn o gyhoeddi creu set ddata synthetig ar gyfer Cymru. Gyda chaniatâd perchnogion data, mae’r tîm wedi creu set ddata synthetig ffyddlondeb isel i gynrychioli data o Arolwg Strwythur Fferm yr Undeb Ewropeaidd, Taliadau Gwledig Cymru a Chyfrifiad Poblogaeth 2011 y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Gall ymchwilwyr ddefnyddio’r set ddata synthetig ffyddlondeb isel fel offeryn hyfforddi, i ymgyfarwyddo â newidynnau AD|ARC ac i ddeall sut y gellir eu defnyddio ar gyfer ymchwil. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymchwilwyr asesu a yw’r data synthetig yn diwallu eu hanghenion cyn gwneud cais i gael mynediad at y data go iawn trwy’r Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (banc data SAIL).
Gallwch archwilio’r data synthetig fan hyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau, cysylltwch â’r tîm trwy e-bost.
