Publication
ADR UK yn buddsoddi rhagor o arian yn AD|ARC
Nawr ar ddiwedd arian cyfnod un, mae AD|ARC yn cysylltu setiau data amaethyddol a ddienwyd yn ddiogel â’r Cyfrifiad Poblogaeth a’r Gofrestr Busnes Rhyng-Adrannol. Bydd y set ddata ymchwil graidd hon hefyd wedi ei chysylltu â data iechyd ac addysg a ddienwyd ar draws y DU i greu setiau data cyntaf ledled y DU, sy’n barod ar gyfer gwaith ymchwil, ar ffermwyr ac aelwydydd ffermio.
Defnyddir yr arian ychwanegol a ddarperir trwy ddata ADR UK parod ar gyfer gwaith ymchwil a galwad mynediad i ddiweddaru ac ehangu’r adnoddau data yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban. Defnyddir y setiau data manylach i gynnal ymchwil mwy uchelgeisiol ledled y DU ar newid demograffeg ffermydd, gweithgareddau economaidd aelwydydd ffermio, a’r cysylltiadau rhwng amgylchiadau’r cartref a phatrymau defnydd tir.
Mae ffermio’n parhau i fod yn hynod bwysig yn y DU. Mae’n cyfrannu at yr economi wledig, yn darparu bwyd i’r wlad ac yn dylanwadu’n fawr ar gynefinoedd naturiol a’r amgylchedd ehangach. Mae ffermwyr ac aelwydydd ffermio hefyd yn sail i gydlyniad cymdeithasol ardaloedd gwledig tenau eu poblogaeth. Fodd bynnag, gwael yw’r ddealltwriaeth o’r berthynas rhwng y gweithgareddau hyn ac mae angen gwell tystiolaeth i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a datblygu polisïau.
Meddai Helen Hoult, Pennaeth Ystadegau Ffermio Defra: “Mae’n braf gweld bod AD|ARC wedi sicrhau arian ar gyfer diweddariad cyfnod 2 ar y casgliad, gan gynnwys Cyfrifiad Poblogaeth 2021. Trwy uno data ffermio a data’r Cyfrifiad, mae AD|ARC yn ffynhonnell ymchwil addawol a allai roi cip i ni ar y pwysau ehangach sy’n effeithio ar ffermio ar iechyd, ffordd o fyw, addysg a lles a’r ffactorau sy’n effeithio ar y rhain.”