Publication
Dau Gymrawd Ymchwil ADR UK wedi’u cymeradwyo i gynnal ymchwil gan ddefnyddio’ Setiau data yn barod am ymchwil AD|ARC Cymru a Lloegr
Rydym yn falch o rannu’r newyddion y bydd dau ymchwilydd yn defnyddio’r setiau data AD|ARC Cymru a Lloegr ar gyfer eu prosiectau ymchwil eu hunain, wedi’u hariannu gan ADR UK.
Nod Dr Claire Hargreaves (Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerhirfryn) yw rhoi darlun manwl o deuluoedd ffermio a chyflwyno teipoleg newydd ar gyfer aelwydydd ffermio yng Nghymru a Lloegr. Bydd teipoleg yr aelwyd ffermio yn seiliedig ar nodweddion y ffermwyr, yr aelwyd fferm a’r busnes fferm, ac wedi hynny yn nodi patrymau yn eu gwendidau iechyd a’u hymgysylltiad â pholisïau amaethyddol.
Bydd yr Athro Paul Wilson (Athro Economeg Amaethyddol, Prifysgol Nottingham) yn amcangyfrif ac yn modelu incwm aelwydydd fferm, dibyniaeth ar gymorthdaliadau, a ffynonellau incwm eraill mewn perthynas â chyfansoddiad a nodweddion aelwydydd fferm. Bydd y prosiect yn cymharu caledi ariannol aelwydydd fferm â chaledi cartrefi gwledig nad ydynt yn ffermydd, yng Nghymru a Lloegr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we ADR UK: Cymrawd Ymchwil ADR UK: Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol – ADR UK