Skip to Main Content Skip to Footer

Publication

Ymunwch â’n Gweminar Cymrodoriaethau ar 13 Mawrth

Byddwn yn cynnal gweminar ar ddydd Mercher 13 Mawrth, 10yb – 11yb, fel rhan o alwad Cymrodoriaeth YDG DU.

Yn y weminar byddwn yn egluro mwy am y setiau data DG|CYA, pynciau ymchwil posibl, a sut i wneud cais am y gymrodoriaeth. Gall y Cymrodoriaethau Ymchwil YDG DU hyn fod hyd at 18 mis o hyd, a hyd at uchafswm o £200,000 ar gost economaidd lawn. Bydd YDG DU yn ariannu 80% o’r costau economaidd llawn.

Mae rhagor o wybodaeth am Gymrodoriaethau YDG DU, gan gynnwys sut i wneud cais, ar gael yma.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar gyfer y weminar drwy’r ddolen hon: Cofrestrwch ar gyfer Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol – Cymru a Lloegr: Dydd Mercher 13 Mawrth, 10:00 – 11:00

Dyma gyfle gwych i ddysgu mwy am DG|CYA, y cyfle cymrodoriaeth, ac i ofyn unrhyw gwestiynau.

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!

Mwy

Mwy o newyddion