Skip to Main Content Skip to Footer

Datganiad Hygyrchedd

Lawrlwythwch y Datganiad Hygyrchedd

 

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wefan ADARC.ac.uk. Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan AD|ARC (Data Gweinyddol – Casgliad Ymchwil Amaethyddol) a ariennir gan ADR UK ac UKRI. Mae’r wefan hon wedi’i dylunio a’i chynnal gan Design Dough Ltd.

Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

    Adborth a gwybodaeth gyswllt

    Os oes angen gwybodaeth ar y wefan arnoch hon mewn fformat gwahanol, megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â Cathrine.E.Richards@Swansea.ac.uk. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn saith diwrnod gwaith.

    Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

    Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: Cathrine.E.Richards@Swansea.ac.uk

    Gweithdrefn orfodi

    Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

    Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

    Mae AD|ARC wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA fersiwn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.1.

    Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd PDF a dogfennau eraill

Mae ein PDF yn darparu gwybodaeth am sut mae’r prosiect AD|ARC yn cael ei lywodraethu a gwybodaeth i ymchwilwyr sy’n gweithio gyda AD|ARC. Cyhoeddir y rhain hefyd ar www.adarc.ac.uk fel tudalennau html ar wahân, sydd ar gael trwy glicio ar y dolenni yn y troedyn ar waelod y dudalen.

Bydd unrhyw ddogfennau Word neu PDF newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 27 Ebrill 2023, a chafodd ei adolygu ddiwethaf ar 11 Mai 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 10 Mai 2023. Cynhaliwyd y prawf gan ddatblygwyr yn designdough ltd.

Esbonnir y dull a ddefnyddiwyd gennym i benderfynu pa dudalennau i’w profi yma ar Wefan Llywodraeth y DU. Trwy’r dull hwn, mae’r tudalennau sampl yn cynnwys:

  • Tudalen hafan y wefan
  • Tudalennau cynnwys sy’n seiliedig ar destun yn bennaf
  • Cynnwys delweddau, fideo a sain
  • Offer a thrafodion rhyngweithiol
  • PDF a dogfennau eraill
  • Gwiriadau technoleg HTML
  • Dolenni llywio
  • Cynnwys deinamig y gellir ei newid gan ddefnyddwyr.