Skip to Main Content Skip to Footer

Publication

AD|ARC – Creu a chryfhau rhwydwaith ymchwil data gweinyddol ledled y DU

Mae Nicholas Webster yn Uwch Ddadansoddwyr ar gyfer Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol. Yma, mae’n trafod sut mae’r prosiect yn creu cysylltiadau newydd ar draws y llywodraeth, y byd academaidd a’r sector amaethyddol i fodloni anghenion tystiolaeth yn y dyfodol.

 

Mewn blogiau blaenorol, mae fy nghydweithwyr wedi amlygu’r heriau sy’n wynebu aelwydydd fferm dros y blynyddoedd nesaf a’r angen am dystiolaeth gwell i lywio newidiadau polisi yn y dyfodol. Rydym wedi esbonio sut mae’r AD|ADR (Data Gweinyddol | Casgliad Ymchwil Amaethyddol) a ariennir gan ADR y DU yn defnyddio data gweinyddol i fodloni’r gofynion tystiolaeth hyn sy’n dod i’r amlwg.

Yn y rhifyn hwn, roeddwn eisiau tynnu sylw at rai o’r cysylltiadau a ffurfiwyd gan y prosiect hyd yn hyn a’u dathlu. Rydym wedi adeiladu partneriaeth ymchwil unigryw ar draws pedair gwlad y DU – a bydd hyn yn ein helpu i fynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth y maes polisi datganoledig hwn. Hyd yma, mae AD|ARC yn gweithio ar draws:

  • chwe adran y llywodraeth,

  • pedwar sefydliad ymchwil (ac mae wedi ymgysylltu â mwy na 10),

  • dros 30 o sefydliadau ychwanegol ledled y DU.

 

Beth yw gwerth y cysylltiadau hyn?

Mae’r lefel hon o gydweithredu ac ymgysylltu yn gofyn am lawer o weinyddu ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n hawdd gwneud iawn am hyn gan y sgiliau, y profiad a’r angerdd a ddaw ynghyd gan bartneriaeth o’r fath. O grofftwyr ar Ynysoedd yr Alban i winllannoedd yn ne Lloegr, mae ffermio ledled y DU yn dapestri amrywiol. O ganlyniad, mae diddordebau ac arbenigedd ein partneriaid yn eang.

Drwy ddod â’r safbwyntiau gwahanol hyn at ei gilydd o bob rhan o’r llywodraeth, y byd academaidd, sefydliadau’r trydydd sector, a ffermwyr eu hunain, rydym yn meithrin amgylchedd cydweithredol ar gyfer ymchwil arloesol. Wrth i ni gyfuno data, adnoddau a sgiliau’r llywodraeth a’r byd academaidd â gwybodaeth a phrofiad ymarferol ffermwyr, mae potensial mawr i gael mewnwelediadau newydd ar draws ystod eang o ddiddordebau polisi. Ar nodyn personol, mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gyda grŵp o bobl mor fedrus ac ymroddedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn unfryd o ran ein hawydd i adeiladu rhywbeth a fydd yn creu manteision pendant i aelwydydd ffermio.

Beth nesaf?

Wrth i ni barhau i ddatblygu adnodd data AD|ARC, rydym eisiau datblygu’r rhwydwaith hwn ymhellach er mwyn:

  • gweithio gyda mwy o ffermwyr a sefydliadau ffermio i sicrhau bod ein holl ymchwil yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i’r rheiny rydym yn ceisio eu helpu,

  • adeiladu rhwydwaith ymchwil amaethyddol ehangach fyth o’r rheiny sy’n defnyddio adnodd AD|ARC, gan barhau i hwyluso ymchwil newydd, arloesol gan academyddion ledled y DU, a

  • pharhau i dyfu ein perthynas â llunwyr polisi i ddarparu ymchwil effaith uchel a fydd yn arwain at ganlyniadau ystyrlon i aelwydydd ffermio.

Ffermio a thu hwnt

Er bod AD|ARC yn ymwneud â ffermio yn bennaf, mae’r berthynas a ffurfiwyd gyda phartneriaid ledled y DU yn darparu profiad defnyddiol o ymgymryd ag ymchwil sy’n cynnwys rhanddeiliaid ym mhob un o’r pedair gwlad. Gall strwythurau, prosesau a data amrywio i ryw raddau ond mae llawer yn gyffredin hefyd – yn bennaf oll, awydd i wella capasiti ar gyfer ymchwil ar lefel y DU.

Mae ADR Cymru eisiau defnyddio AD|ARC fel prosiect enghreifftiol o sut y gall y llywodraeth, y diwydiant a’r byd academaidd gydweithio’n fwy effeithiol. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i ddatblygu cenhadaeth graidd ADR y DU i ddatgloi potensial ymchwil data gweinyddol.

Mwy

Mewnwelediad pellach