Skip to Main Content Skip to Footer

Pwrpas

Gwella ffyniant a lles aelwydydd fferm

Beth yw AD|ARC?

Ynghylch AD|ARC

Amdanom ni

Ein Dull

Mae AD|ARC yn gweithio mewn partneriaeth â’r Llywodraeth, Byd Academaidd , Undebau Ffermio, Cymdeithasau ac Elusennau i gyflawni ymchwil a fydd o fudd i’r bobl a’r aelwydydd sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth yn y DU, a chymunedau gwledig ehangach.

Mae ffermio yn y DU yn sail i sicrwydd bwyd, yn cynhyrchu buddion economaidd ac yn llunio tirwedd gyfoethog ac amrywiol. Er gwaethaf hyn, mae diffyg tystiolaeth am y bobl a’r cartrefi sy’n ffermio yn y DU a’r heriau y maent yn eu hwynebu.

Mae AD|ARC yn canolbwyntio ar gynorthwyo'r bobl a’r aelwydydd sy’n ffermio yn y DU ac sy'n byw mewn ardaloedd gwledig drwy gynnal ymchwil a dadansoddiadau sy’n berthnasol i’r sector. Mae’n blatfform data dad-adnabyddedig diogel a sicr y gall ymchwilwyr achrededig sydd â phrosiectau ymchwil cymeradwy yn unig gael mynediad ato. Mae'n rhaid i brosiectau ymchwil ddangos tystiolaeth o fuddion cyhoeddus ac ni allant fod â ffocws masnachol.

Mae AD|ARC yn dod â gwyddonwyr data, ymchwilwyr, ystadegwyr a thechnegau newydd ynghyd i wella dealltwriaeth o’r bobl a’r aelwydydd sy’n ffermio yn y DU, a chymunedau gwledig ehangach. O ystyried newidiadau diweddar i bolisi amaethyddol yn y DU mae AD|ARC yn adnodd gwerthfawr i helpu i gefnogi ymdrechion i gefnogi llwyddiant a lles aelwydydd fferm ac aelwydydd gwledig.

Darllen mwy
Machlud haul ar fferm ddefaid

Mewnwelediadau

Mae AD|ARC yn dod â gwyddonwyr data ynghyd ag arbenigwyr mewn amaethyddiaeth a materion gwledig i wneud ymchwil sy’n berthnasol i’r bobl ac aelwydydd amaethyddiaeth a chymunedau gwledig y DU.

View publications